23 Yna cymerodd Abraham ei fab Ismael, a phawb a anwyd yn ei dŷ neu a brynwyd â'i arian, pob gwryw o deulu Abraham, ac enwaedodd gnawd eu blaengrwyn y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Duw wedi dweud wrtho.
24 Yr oedd Abraham yn naw deg a naw mlwydd oed pan enwaedwyd cnawd ei flaengroen,
25 a'i fab Ismael yn dair ar ddeg oed pan enwaedwyd cnawd ei flaengroen yntau.
26 Y diwrnod hwnnw enwaedwyd Abraham a'i fab Ismael;
27 ac enwaedwyd gydag ef holl ddynion ei dŷ, y rhai a anwyd i'r teulu a phob dieithryn a brynwyd ag arian.