1 Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abraham wrth dderw Mamre, pan oedd yn eistedd wrth ddrws y babell yng ngwres y dydd.
2 Cododd ei olwg a gwelodd dri gŵr yn sefyll o'i flaen. Pan welodd hwy, rhedodd o ddrws y babell i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr,
3 a dweud, “F'arglwydd, os cefais ffafr yn d'olwg, paid â mynd heibio i'th was.
4 Dyger ychydig ddŵr, a golchwch eich traed a gorffwyso dan y goeden,