12 Am hynny, chwarddodd Sara ynddi ei hun, a dweud, “Ai wedi imi heneiddio, a'm gŵr hefyd yn hen, y caf hyfrydwch?”
13 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, “Pam y chwarddodd Sara a dweud, ‘A fyddaf fi'n wir yn planta, a minnau'n hen?’
14 A oes dim yn rhy anodd i'r ARGLWYDD? Dof yn ôl atat ar yr amser penodedig, yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara fab.”
15 Gwadodd Sara iddi chwerthin, oherwydd yr oedd arni ofn. Ond dywedodd ef, “Do, fe chwerddaist.”
16 Pan aeth y gwŷr ymlaen oddi yno, ac edrych i lawr tua Sodom, aeth Abraham gyda hwy i'w hebrwng.
17 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho'i hun, “A gelaf fi rhag Abraham yr hyn yr wyf am ei wneud,
18 oherwydd yn ddiau daw Abraham yn genedl fawr a chref, a bendithir holl genhedloedd y ddaear ynddo?