2 Cododd ei olwg a gwelodd dri gŵr yn sefyll o'i flaen. Pan welodd hwy, rhedodd o ddrws y babell i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr,
3 a dweud, “F'arglwydd, os cefais ffafr yn d'olwg, paid â mynd heibio i'th was.
4 Dyger ychydig ddŵr, a golchwch eich traed a gorffwyso dan y goeden,
5 a dof finnau â thamaid o fara i'ch cynnal, ac wedyn cewch fynd ymaith; dyna pam yr ydych wedi dod at eich gwas.” Ac meddant, “Gwna fel y dywedaist.”
6 Brysiodd Abraham i'r babell at Sara, a dweud, “Brysia i estyn tri mesur o flawd peilliaid, tylina ef, a gwna deisennau.”
7 Yna rhedodd Abraham at y gwartheg, a chymryd llo tyner a da a'i roi i'w was; a brysiodd yntau i'w baratoi.
8 Cymerodd gaws a llaeth a'r llo yr oedd wedi ei baratoi, a'u gosod o'u blaenau; yna safodd gerllaw o dan y goeden tra oeddent yn bwyta.