29 Llefarodd eto wrtho a dweud, “Beth os ceir deugain yno?” Dywedodd yntau, “Nis gwnaf er mwyn y deugain.”
30 Yna dywedodd, “Na ddigied yr ARGLWYDD os llefaraf. Ond beth os ceir yno ddeg ar hugain?” Dywedodd yntau, “Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain.”
31 Yna dywedodd, “Dyma fi wedi beiddio llefaru wrth yr ARGLWYDD. Beth os ceir yno ugain?” Dywedodd yntau, “Ni ddinistriaf hi er mwyn yr ugain.”
32 Yna dywedodd, “Peidied yr ARGLWYDD â digio wrthyf am lefaru y tro hwn yn unig. Beth os ceir yno ddeg?” Dywedodd yntau, “Ni ddinistriaf hi er mwyn y deg.”
33 Aeth yr ARGLWYDD ymaith wedi iddo orffen llefaru wrth Abraham, a dychwelodd Abraham i'w le.