20 Dacw ddinas agos i ffoi iddi, ac un fechan ydyw. Gad imi ddianc yno, imi gael byw; onid un fach yw hi?”
21 Atebodd yntau, “o'r gorau, caniatâf y dymuniad hwn hefyd, ac ni ddinistriaf y ddinas a grybwyllaist.
22 Dianc yno ar frys; oherwydd ni allaf wneud dim nes i ti gyrraedd yno.” Am hynny, galwyd y ddinas Soar.
23 Erbyn i Lot gyrraedd Soar, yr oedd yr haul wedi codi dros y tir;
24 yna glawiodd yr ARGLWYDD frwmstan a thân dwyfol o'r nefoedd ar Sodom a Gomorra.
25 Dinistriodd y dinasoedd hynny a'r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chynnyrch y pridd.
26 Ond yr oedd gwraig Lot wedi edrych yn ei hôl, a throdd yn golofn halen.