23 Erbyn i Lot gyrraedd Soar, yr oedd yr haul wedi codi dros y tir;
24 yna glawiodd yr ARGLWYDD frwmstan a thân dwyfol o'r nefoedd ar Sodom a Gomorra.
25 Dinistriodd y dinasoedd hynny a'r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chynnyrch y pridd.
26 Ond yr oedd gwraig Lot wedi edrych yn ei hôl, a throdd yn golofn halen.
27 Aeth Abraham yn y bore bach i'r fan lle'r oedd wedi sefyll gerbron yr ARGLWYDD;
28 ac edrychodd i lawr ar Sodom a Gomorra ac ar holl dir y gwastadedd, a gwelodd fwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrn.
29 Felly pan oedd Duw'n dinistrio dinasoedd y gwastadedd, yr oedd wedi cofio am Abraham, a phan oedd yn dinistrio'r dinasoedd y bu Lot yn trigo ynddynt, gyrrodd Lot allan o ganol y dinistr.