27 Aeth Abraham yn y bore bach i'r fan lle'r oedd wedi sefyll gerbron yr ARGLWYDD;
28 ac edrychodd i lawr ar Sodom a Gomorra ac ar holl dir y gwastadedd, a gwelodd fwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrn.
29 Felly pan oedd Duw'n dinistrio dinasoedd y gwastadedd, yr oedd wedi cofio am Abraham, a phan oedd yn dinistrio'r dinasoedd y bu Lot yn trigo ynddynt, gyrrodd Lot allan o ganol y dinistr.
30 Yna aeth Lot i fyny o Soar i fyw yn y mynydd-dir gyda'i ddwy ferch, oherwydd yr oedd arno ofn aros yn Soar; a bu'n byw mewn ogof gyda'i ddwy ferch.
31 Dywedodd yr hynaf wrth yr ieuengaf, “Y mae ein tad yn hen, ac nid oes ŵr yn y byd i ddod atom yn ôl arfer yr holl ddaear.
32 Tyrd, rhown win i'n tad i'w yfed, a gorweddwn gydag ef, er mwyn inni gael epil o'n tad.”
33 Felly y noson honno rhoesant win i'w tad i'w yfed; a daeth yr hynaf a gorwedd gyda'i thad, ac ni wyddai ef ddim pryd y gorweddodd hi, na phryd y cododd.