35 Felly rhoesant win i'w tad i'w yfed y noson honno hefyd; ac aeth yr ieuengaf i orwedd gydag ef, ac ni wyddai ef ddim pryd y gorweddodd hi, na phryd y cododd.
36 Felly y beichiogodd dwy ferch Lot o'u tad.
37 Esgorodd yr hynaf ar fab, a'i enwi Moab; ef yw tad y Moabiaid presennol.
38 Esgorodd yr ieuengaf hefyd ar fab, a'i enwi Ben-ammi; ef yw tad yr Ammoniaid presennol.