1 Felly gorffennwyd y nefoedd a'r ddaear a'u holl luoedd.
2 Ac erbyn y seithfed dydd yr oedd Duw wedi gorffen y gwaith a wnaeth, a gorffwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith.
3 Am hynny bendithiodd Duw y seithfed dydd a'i sancteiddio, am mai ar hwnnw y gorffwysodd Duw oddi wrth ei holl waith yn creu.
4 Dyma hanes cenhedlu'r nefoedd a'r ddaear pan grewyd hwy.Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd,
5 nid oedd un o blanhigion y maes wedi dod ar y tir, nac un o lysiau'r maes wedi blaguro, am nad oedd yr ARGLWYDD Dduw eto wedi peri iddi lawio ar y ddaear, ac nad oedd yno ddyn i drin y tir;
6 ond yr oedd tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y tir.
7 Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw.