14 Ac enw'r drydedd yw Tigris; hon sy'n llifo o'r tu dwyrain i Asyria. A'r bedwaredd afon yw Ewffrates.
15 Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw.
16 Rhoddodd yr ARGLWYDD Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, “Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd,
17 ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw.”
18 Dywedodd yr ARGLWYDD Dduw hefyd, “Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun; gwnaf iddo ymgeledd cymwys.”
19 Felly fe luniodd yr ARGLWYDD Dduw o'r ddaear yr holl fwystfilod gwyllt a holl adar yr awyr, a daeth â hwy at y dyn i weld pa enw a roddai arnynt; a pha enw bynnag a roes y dyn ar unrhyw greadur, dyna fu ei enw.
20 Rhoes y dyn enw ar yr holl anifeiliaid, ar adar yr awyr, ac ar yr holl fwystfilod gwyllt; ond ni chafodd ymgeledd cymwys iddo'i hun.