20 Rhoes y dyn enw ar yr holl anifeiliaid, ar adar yr awyr, ac ar yr holl fwystfilod gwyllt; ond ni chafodd ymgeledd cymwys iddo'i hun.
21 Yna parodd yr ARGLWYDD Dduw i drymgwsg syrthio ar y dyn, a thra oedd yn cysgu, cymerodd un o'i asennau a chau ei lle â chnawd;
22 ac o'r asen a gymerodd gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw wraig, a daeth â hi at y dyn.
23 A dywedodd y dyn,“Dyma hi!Asgwrn o'm hesgyrn, a chnawd o'm cnawd.Gelwir hi yn wraig,am mai o ŵr y cymerwyd hi.”
24 Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.
25 Yr oedd y dyn a'i wraig ill dau yn noeth, ac nid oedd arnynt gywilydd.