3 Am hynny bendithiodd Duw y seithfed dydd a'i sancteiddio, am mai ar hwnnw y gorffwysodd Duw oddi wrth ei holl waith yn creu.
4 Dyma hanes cenhedlu'r nefoedd a'r ddaear pan grewyd hwy.Yn y dydd y gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddaear a nefoedd,
5 nid oedd un o blanhigion y maes wedi dod ar y tir, nac un o lysiau'r maes wedi blaguro, am nad oedd yr ARGLWYDD Dduw eto wedi peri iddi lawio ar y ddaear, ac nad oedd yno ddyn i drin y tir;
6 ond yr oedd tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y tir.
7 Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw.
8 A phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio.
9 A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd, a phren gwybodaeth da a drwg.