1 Bu newyn yn y wlad, heblaw'r newyn a fu gynt yn nyddiau Abraham, ac aeth Isaac i Gerar at Abimelech brenin y Philistiaid.
2 Yr oedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos iddo, a dweud, “Paid â mynd i lawr i'r Aifft; aros yn y wlad a ddywedaf fi wrthyt.
3 Ymdeithia yn y wlad hon, a byddaf gyda thi i'th fendithio; oherwydd rhoddaf yr holl wledydd hyn i ti ac i'th ddisgynyddion, a chadarnhaf y llw a dyngais wrth dy dad Abraham.
4 Amlhaf dy ddisgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoi iddynt yr holl wledydd hyn. Bendithir holl genhedloedd y ddaear trwy dy ddisgynyddion.
5 Bydd hyn am i Abraham wrando ar fy llais, a chadw fy ngofynion, fy ngorchmynion, fy neddfau a'm cyfreithiau.”
6 Felly arhosodd Isaac yn Gerar.