10 Dywedodd Abimelech, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni? Hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig, ac i ti ddwyn euogrwydd arnom.”
11 Felly rhybuddiodd Abimelech yr holl bobl a dweud, “Lleddir y sawl a gyffyrdda â'r gŵr hwn neu â'i wraig.”
12 Heuodd Isaac yn y tir hwnnw, a medi'r flwyddyn honno ar ei ganfed, a bendithiodd yr ARGLWYDD ef.
13 Llwyddodd y gŵr, a chynyddodd nes dod yn gyfoethog iawn.
14 Yr oedd yn berchen defaid ac ychen, a llawer o weision, fel bod y Philistiaid yn cenfigennu wrtho.
15 Caeodd y Philistiaid yr holl bydewau a gloddiodd y gweision yn nyddiau ei dad Abraham a'u llenwi â phridd,
16 a dywedodd Abimelech wrth Isaac, “Dos oddi wrthym, oherwydd aethost yn gryfach o lawer na ni.”