17 Felly ymadawodd Isaac oddi yno, a gwersyllodd yn nyffryn Gerar ac aros yno.
18 Ac ailgloddiodd Isaac y pydewau dŵr a gloddiwyd yn nyddiau ei dad Abraham, ac a gaewyd gan y Philistiaid ar ôl marw Abraham; a galwodd hwy wrth yr un enwau â'i dad.
19 Ond pan gloddiodd gweision Isaac yn y dyffryn, a chael yno ffynnon o ddŵr yn tarddu,
20 bu cynnen rhwng bugeiliaid Gerar a bugeiliaid Isaac, a dywedasant, “Ni biau'r dŵr.” Felly enwodd y ffynnon Esec, am iddynt godi cynnen ag ef.
21 Yna cloddiasant bydew arall, a bu cynnen ynglŷn â hwnnw hefyd; felly enwodd ef Sitna.
22 Symudodd oddi yno a chloddio pydew arall, ac ni bu cynnen ynglŷn â hwnnw; felly enwodd ef Rehoboth, a dweud, “Rhoes yr ARGLWYDD le helaeth i ni, a byddwn ffrwythlon yn y wlad.”
23 Aeth Isaac oddi yno i Beerseba.