26 Yna daeth Abimelech ato o Gerar, gydag Ahussath ei gynghorwr a Phichol pennaeth ei fyddin.
27 Gofynnodd Isaac iddynt, “Pam yr ydych wedi dod ataf, gan i chwi fy nghasáu a'm gyrru oddi wrthych?”
28 Atebasant hwythau, “Gwelsom yn eglur fod yr ARGLWYDD gyda thi; am hynny fe ddywedwn, ‘Bydded llw rhyngom’, a gwnawn gyfamod â thi,
29 na wnei di ddim drwg i ni, yn union fel na fu i ni gyffwrdd â thi, na gwneud dim ond daioni iti a'th anfon ymaith mewn heddwch. Yn awr, ti yw bendigedig yr ARGLWYDD.”
30 Yna, gwnaeth wledd iddynt, a bwytasant ac yfed.
31 Yn y bore codasant yn gynnar a thyngu llw i'w gilydd; ac anfonodd Isaac hwy ymaith, ac aethant mewn heddwch.
32 Daeth gweision Isaac y diwrnod hwnnw a mynegi iddo am y pydew yr oeddent wedi ei gloddio, a dweud wrtho, “Cawsom ddŵr.”