3 Ymdeithia yn y wlad hon, a byddaf gyda thi i'th fendithio; oherwydd rhoddaf yr holl wledydd hyn i ti ac i'th ddisgynyddion, a chadarnhaf y llw a dyngais wrth dy dad Abraham.
4 Amlhaf dy ddisgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoi iddynt yr holl wledydd hyn. Bendithir holl genhedloedd y ddaear trwy dy ddisgynyddion.
5 Bydd hyn am i Abraham wrando ar fy llais, a chadw fy ngofynion, fy ngorchmynion, fy neddfau a'm cyfreithiau.”
6 Felly arhosodd Isaac yn Gerar.
7 Pan ofynnodd gwŷr y lle ynghylch ei wraig, dywedodd, “Fy chwaer yw hi”, am fod arno ofn dweud, “Fy ngwraig yw hi”, rhag i wŷr y lle ei ladd o achos Rebeca; oherwydd yr oedd hi'n brydferth.
8 Wedi iddo fod yno am ysbaid, edrychodd Abimelech brenin y Philistiaid trwy'r ffenestr a chanfod Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca.
9 Yna galwodd Abimelech ar Isaac, a dweud, “Y mae'n amlwg mai dy wraig yw hi; pam y dywedaist, ‘Fy chwaer yw hi’?” Dywedodd Isaac wrtho, “Am imi feddwl y byddwn farw o'i hachos hi.”