30 Yna, gwnaeth wledd iddynt, a bwytasant ac yfed.
31 Yn y bore codasant yn gynnar a thyngu llw i'w gilydd; ac anfonodd Isaac hwy ymaith, ac aethant mewn heddwch.
32 Daeth gweision Isaac y diwrnod hwnnw a mynegi iddo am y pydew yr oeddent wedi ei gloddio, a dweud wrtho, “Cawsom ddŵr.”
33 Galwodd yntau ef Seba; am hynny Beerseba yw enw'r ddinas hyd heddiw.
34 Pan oedd Esau'n ddeugain mlwydd oed, priododd Judith ferch Beeri yr Hethiad, a hefyd Basemath ferch Elon yr Hethiad;
35 a buont yn achos gofid i Isaac a Rebeca.