13 A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i'th ddisgynyddion;
14 bydd dy hil fel llwch y ddaear, a byddi'n ymestyn i'r gorllewin a'r dwyrain ac i'r gogledd a'r de; a bendithir holl deuluoedd y ddaear ynot ti ac yn dy ddisgynyddion.
15 Wele, yr wyf fi gyda thi, a chadwaf di ple bynnag yr ei, a dof â thi'n ôl i'r wlad hon; oherwydd ni'th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais.”
16 Pan ddeffrôdd Jacob o'i gwsg, dywedodd, “Y mae'n sicr fod yr ARGLWYDD yn y lle hwn, ac ni wyddwn i.”
17 A daeth arno ofn, ac meddai, “Mor ofnadwy yw'r lle hwn! Nid yw'n ddim amgen na thŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd.”
18 Cododd Jacob yn fore, a chymerodd y garreg a fu dan ei ben, a gosododd hi'n golofn, a thywallt olew drosti.
19 Galwodd y lle, Bethel, ond enw'r ddinas ar y dechrau oedd Lus.