7 a bod Jacob wedi gwrando ar ei rieni a mynd i Padan Aram.
8 Pan welodd Esau nad oedd merched Canaan wrth fodd Isaac ei dad,
9 aeth at Ismael a chymryd yn wraig, at ei wragedd eraill, Mahalath ferch Ismael, fab Abraham, chwaer Nebaioth.
10 Ymadawodd Jacob â Beerseba a theithio tua Haran.
11 A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno.
12 Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a'i phen yn cyrraedd i'r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi.
13 A safodd yr ARGLWYDD gerllaw iddo a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Abraham dy dad, a Duw Isaac; rhoddaf y tir yr wyt yn gorwedd arno i ti ac i'th ddisgynyddion;