1 Yna aeth Jacob ymlaen ar ei daith, a dod i wlad pobl y dwyrain.
2 Wrth edrych, gwelodd bydew yn y maes, a thair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho, gan mai o'r pydew hwnnw y rhoid dŵr i'r diadelloedd. Yr oedd carreg fawr ar geg y pydew,
3 a phan fyddai'r holl ddiadelloedd wedi eu casglu yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i'r defaid, ac yna'n gosod y garreg yn ôl yn ei lle ar geg y pydew.
4 Dywedodd Jacob wrthynt, “Frodyr, o ble'r ydych yn dod?” Atebasant, “Rhai o Haran ydym ni.”
5 Yna gofynnodd iddynt, “A ydych yn adnabod Laban fab Nachor?” Atebasant hwythau, “Ydym.”
6 Wedyn meddai wrthynt, “A yw'n iawn?” Atebasant, “Ydyw; dacw ei ferch Rachel yn dod â'r defaid.”