13 Pan glywodd Laban am Jacob, mab ei chwaer, rhedodd i'w gyfarfod, a'i gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag ef i'w dŷ. Adroddodd yntau'r cwbl wrth Laban,
14 a dywedodd Laban wrtho, “Yn sicr, fy asgwrn a'm cnawd wyt ti.” Ac arhosodd gydag ef am fis.
15 Yna dywedodd Laban wrth Jacob, “Pam y dylit weithio imi am ddim, yn unig am dy fod yn nai imi? Dywed i mi beth fydd dy gyflog?”
16 Yr oedd gan Laban ddwy ferch; enw'r hynaf oedd Lea, ac enw'r ieuengaf Rachel.
17 Yr oedd llygaid Lea yn bŵl, ond yr oedd Rachel yn osgeiddig a phrydferth.
18 Hoffodd Jacob Rachel, a dywedodd, “Fe weithiaf i ti am saith mlynedd am Rachel, dy ferch ieuengaf.”
19 Dywedodd Laban, “Gwell gennyf ei rhoi i ti nag i neb arall; aros gyda mi.”