26 Dywedodd Laban, “Nid yw'n arfer yn ein gwlad ni roi'r ferch ieuengaf o flaen yr hynaf.
27 Gorffen yr wythnos wledd gyda hon, a rhoir y llall hefyd iti am weithio imi am dymor o saith mlynedd arall.”
28 Gwnaeth Jacob felly, a gorffennodd y saith diwrnod. Yna rhoddodd Laban ei ferch Rachel yn wraig iddo,
29 a rhoi ei forwyn Bilha i'w ferch Rachel yn forwyn.
30 Cafodd Jacob gyfathrach â Rachel hefyd, a hoffodd Rachel yn fwy na Lea, a gweithiodd i Laban am saith mlynedd arall.
31 Pan welodd yr ARGLWYDD fod Lea'n cael ei chasáu, agorodd ei chroth; ond yr oedd Rachel yn ddi-blant.
32 Beichiogodd Lea ac esgor ar fab, a galwodd ef Reuben; oherwydd dywedodd, “Y mae'r ARGLWYDD wedi gweld fy ngwaradwydd, ac yn awr bydd fy ngŵr yn fy ngharu.”