10 Atebodd yntau, “Clywais dy sŵn yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais.”
11 Dywedodd yntau, “Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o'r pren y gorchmynnais iti beidio â bwyta ohono?”
12 A dywedodd y dyn, “Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau.”
13 Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, “Pam y gwnaethost hyn?” A dywedodd y wraig, “Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau.”
14 Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y sarff:“Am iti wneud hyn, yr wyt yn fwy melltigedigna'r holl anifeiliaid,ac na'r holl fwystfilod gwyllt;byddi'n ymlusgo ar dy dor,ac yn bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd.
15 Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig,a rhwng dy had di a'i had hithau;bydd ef yn ysigo dy ben di,a thithau'n ysigo'i sawdl ef.”
16 Dywedodd wrth y wraig:“Byddaf yn amlhau yn ddirfawr dy boen a'th wewyr;mewn poen y byddi'n geni plant.Eto bydd dy ddyhead am dy ŵr,a bydd ef yn llywodraethu arnat.”