18 Bydd yn rhoi iti ddrain ac ysgall, a byddi'n bwyta llysiau gwyllt.
19 Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta barahyd oni ddychweli i'r pridd,oherwydd ohono y'th gymerwyd;llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli.”
20 Rhoddodd y dyn i'w wraig yr enw Efa, am mai hi oedd mam pob un byw.
21 A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw beisiau crwyn i Adda a'i wraig, a'u gwisgo amdanynt.
22 Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw, “Edrychwch, y mae'r dyn fel un ohonom ni, yn gwybod da a drwg. Yn awr, rhaid iddo beidio ag estyn ei law a chymryd hefyd o bren y bywyd, a bwyta, a byw hyd byth.”
23 Am hynny anfonodd yr ARGLWYDD Dduw ef allan o ardd Eden, i drin y tir y cymerwyd ef ohono.
24 Gyrrodd y dyn allan; a gosododd gerwbiaid i'r dwyrain o ardd Eden, a chleddyf fflamllyd yn chwyrlïo, i warchod y ffordd at bren y bywyd.