1 Clywodd Jacob fod meibion Laban yn dweud, “Y mae Jacob wedi cymryd holl eiddo ein tad, ac o'r hyn oedd yn perthyn i'n tad y mae ef wedi ennill yr holl gyfoeth hwn.”
2 A gwelodd Jacob nad oedd agwedd Laban ato fel y bu o'r blaen.
3 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jacob, “Dos yn ôl i wlad dy dadau ac at dy dylwyth, a byddaf gyda thi.”
4 Felly anfonodd Jacob a galw Rachel a Lea i'r maes lle'r oedd ei braidd;
5 a dywedodd wrthynt, “Gwelaf nad yw agwedd eich tad ataf fel y bu o'r blaen, ond bu Duw fy nhad gyda mi.