10 Yn nhymor beichiogi'r praidd codais fy ngolwg a gweld mewn breuddwyd fod yr hyrddod oedd yn llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc.
11 Yna dywedodd angel Duw wrthyf yn fy mreuddwyd, ‘Jacob.’ Atebais innau, ‘Dyma fi.’
12 Yna dywedodd, ‘Cod dy olwg ac edrych; y mae'r holl hyrddod sy'n llamu'r praidd wedi eu marcio'n frith a broc; yr wyf wedi gweld popeth y mae Laban yn ei wneud i ti.
13 Myfi yw Duw Bethel, lle'r eneiniaist golofn a gwneud adduned i mi. Yn awr cod, dos o'r wlad hon a dychwel i wlad dy enedigaeth.’ ”
14 Yna atebodd Rachel a Lea ef, “A oes i ni bellach ran neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad?
15 Onid ydym ni'n cael ein cyfrif ganddo yn estroniaid? Oherwydd y mae wedi'n gwerthu, ac wedi gwario'r arian.
16 Yr holl gyfoeth y mae Duw wedi ei gymryd oddi ar ein tad, ein heiddo ni a'n plant ydyw; yn awr, felly, gwna bopeth a ddywedodd Duw wrthyt.”