17 Yna cododd Jacob a gosod ei blant a'i wragedd ar gamelod;
18 a thywysodd ei holl anifeiliaid a'i holl eiddo, a gafodd yn Padan Aram, i fynd i wlad Canaan at ei dad Isaac.
19 Yr oedd Laban wedi mynd i gneifio'i ddefaid, a lladrataodd Rachel ddelwau'r teulu oedd yn perthyn i'w thad.
20 Felly bu i Jacob dwyllo Laban yr Aramead trwy ffoi heb ddweud wrtho.
21 Ffodd gyda'i holl eiddo, a chroesi'r Ewffrates, a mynd i gyfeiriad mynydd-dir Gilead.
22 Ymhen tridiau rhoed gwybod i Laban fod Jacob wedi ffoi.
23 Cymerodd yntau ei berthnasau gydag ef, a'i ymlid am saith diwrnod a'i ganlyn hyd fynydd-dir Gilead.