21 Ffodd gyda'i holl eiddo, a chroesi'r Ewffrates, a mynd i gyfeiriad mynydd-dir Gilead.
22 Ymhen tridiau rhoed gwybod i Laban fod Jacob wedi ffoi.
23 Cymerodd yntau ei berthnasau gydag ef, a'i ymlid am saith diwrnod a'i ganlyn hyd fynydd-dir Gilead.
24 Ond daeth Duw at Laban yr Aramead mewn breuddwyd nos, a dweud wrtho, “Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.”
25 Pan oddiweddodd Laban Jacob, yr oedd Jacob wedi lledu ei babell yn y mynydd-dir; ac felly, gwersyllodd Laban gyda'i frodyr ym mynydd-dir Gilead.
26 A dywedodd Laban wrth Jacob, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud? Yr wyt wedi fy nhwyllo, a dwyn ymaith fy merched fel caethion rhyfel.
27 Pam y ffoaist yn ddirgel a'm twyllo? Pam na roist wybod i mi, er mwyn imi gael dy hebrwng yn llawen â chaniadau a thympan a thelyn?