28 Ni adewaist imi gusanu fy meibion a'm merched; yr wyt wedi gwneud peth ffôl.
29 Gallwn wneud niwed i chwi, ond llefarodd Duw dy dad wrthyf neithiwr, a dweud, ‘Gofala na ddywedi air wrth Jacob, na da na drwg.’
30 Diau mai am iti hiraethu am dŷ dy dad yr aethost ymaith, ond pam y lladrateaist fy nuwiau?”
31 Yna atebodd Jacob Laban, “Ffoais am fod arnaf ofn, gan imi feddwl y byddit yn dwyn dy ferched oddi arnaf trwy drais.
32 Ond y sawl sy'n cadw dy dduwiau, na chaffed fyw! Yng ngŵydd ein brodyr myn wybod beth o'th eiddo sydd gyda mi, a chymer ef.” Ni wyddai Jacob mai Rachel oedd wedi eu lladrata.
33 Felly aeth Laban i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy forwyn, ond heb gael y duwiau. Daeth allan o babell Lea a mynd i mewn i babell Rachel.
34 Yr oedd Rachel wedi cymryd delwau'r teulu a'u gosod yng nghyfrwy'r camel, ac yr oedd yn eistedd arnynt. Chwiliodd Laban trwy'r babell heb eu cael.