3 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jacob, “Dos yn ôl i wlad dy dadau ac at dy dylwyth, a byddaf gyda thi.”
4 Felly anfonodd Jacob a galw Rachel a Lea i'r maes lle'r oedd ei braidd;
5 a dywedodd wrthynt, “Gwelaf nad yw agwedd eich tad ataf fel y bu o'r blaen, ond bu Duw fy nhad gyda mi.
6 Gwyddoch fy mod wedi gweithio i'ch tad â'm holl egni;
7 ond twyllodd eich tad fi, a newid fy nghyflog ddengwaith; eto ni adawodd Duw iddo fy niweidio.
8 Pan ddywedai ef, ‘Y brithion fydd dy gyflog’, yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar frithion; a phan ddywedai ef, ‘Y broc fydd dy gyflog’, yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar rai broc.
9 Felly cymerodd Duw anifeiliaid eich tad a'u rhoi i mi.