13 Arhosodd yno y noson honno, a chymerodd o'r hyn oedd ganddo anrheg i'w frawd Esau:
14 dau gant o eifr ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid ac ugain o hyrddod,
15 deg ar hugain o gamelod magu a'u llydnod, deugain o wartheg a deg o deirw, ugain o asennod a deg asyn.
16 Rhoes hwy yng ngofal ei weision, bob gyr ar ei phen ei hun, a dywedodd wrth ei weision, “Ewch o'm blaen, a gadewch fwlch rhwng pob gyr a'r nesaf.”
17 Gorchmynnodd i'r cyntaf, “Pan ddaw fy mrawd Esau i'th gyfarfod a gofyn, ‘I bwy yr wyt yn perthyn? I ble'r wyt ti'n mynd? A phwy biau'r rhain sydd dan dy ofal?’
18 yna dywed, ‘Dy was Jacob biau'r rhain; anfonwyd hwy'n anrheg i'm harglwydd Esau, ac y mae Jacob ei hun yn ein dilyn.’ ”
19 Rhoes yr un gorchymyn i'r ail a'r trydydd, ac i bob un oedd yn canlyn y gyrroedd, a dweud, “Yr un peth a ddywedwch chwithau wrth Esau pan ddewch i'w gyfarfod,