1 Cododd Jacob ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd Esau yn dod, a phedwar cant o ddynion gydag ef. Rhannodd Jacob y plant rhwng Lea a Rachel a'r ddwy forwyn,
2 a gosododd y morynion a'u plant ar y blaen, yna Lea a'i phlant y tu ôl iddynt, a Rachel a Joseff yn olaf.
3 Cerddodd yntau o'u blaen ac ymgrymu i'r llawr seithwaith wrth nesáu at ei frawd.
4 Ond rhedodd Esau i'w gyfarfod, a'i gofleidio a rhoi ei freichiau am ei wddf a'i gusanu, ac wylodd y ddau.