11 Cymer yn awr fy rhodd a ddygwyd i ti, oherwydd bu Duw yn raslon i mi, ac y mae gennyf ddigon.” Ac am ei fod yn erfyn arno, cymerodd yntau'r rhodd.
12 Yna dywedodd Esau, “Cychwynnwn ar ein taith, ac af finnau o'th flaen.”
13 Ond dywedodd Jacob wrtho, “Y mae f'arglwydd yn gwybod fod y plant yn eiddil, a bod y defaid a'r gwartheg magu yn fy ngofal. Os cânt eu gyrru yn rhy galed un diwrnod, bydd yr holl braidd farw.
14 Aed f'arglwydd o flaen ei was, a dilynaf finnau'n araf, yn ôl gallu'r anifeiliaid sydd o'm blaen a'r plant, nes dod at f'arglwydd i Seir.”
15 A dywedodd Esau, “Gad imi drefnu i rai o'm dynion fynd gyda thi.” Ond atebodd yntau, “Pam, os wyf yn cael ffafr yng ngolwg f'arglwydd?”
16 Yna dychwelodd Esau y diwrnod hwnnw ar ei ffordd i Seir.
17 A theithiodd Jacob i Succoth, ac adeiladodd dŷ iddo'i hun a gwneud cytiau i'w anifeiliaid; am hynny enwodd y lle Succoth.