15 A dywedodd Esau, “Gad imi drefnu i rai o'm dynion fynd gyda thi.” Ond atebodd yntau, “Pam, os wyf yn cael ffafr yng ngolwg f'arglwydd?”
16 Yna dychwelodd Esau y diwrnod hwnnw ar ei ffordd i Seir.
17 A theithiodd Jacob i Succoth, ac adeiladodd dŷ iddo'i hun a gwneud cytiau i'w anifeiliaid; am hynny enwodd y lle Succoth.
18 Ar ei daith o Padan Aram, daeth Jacob yn ddiogel i ddinas Sichem yng ngwlad Canaan, a gwersyllodd ger y ddinas.
19 Prynodd ddarn o dir gan feibion Hamor tad Sichem, am gant o ddarnau arian,
20 ac wedi gosod ei babell yno, cododd allor a'i henwi El-elohe-israel.