2 a gosododd y morynion a'u plant ar y blaen, yna Lea a'i phlant y tu ôl iddynt, a Rachel a Joseff yn olaf.
3 Cerddodd yntau o'u blaen ac ymgrymu i'r llawr seithwaith wrth nesáu at ei frawd.
4 Ond rhedodd Esau i'w gyfarfod, a'i gofleidio a rhoi ei freichiau am ei wddf a'i gusanu, ac wylodd y ddau.
5 Yna cododd Esau ei olwg a gweld y gwragedd a'r plant, a gofynnodd, “Pwy yw'r rhain sydd gyda thi?” Atebodd yntau, “Dyma'r plant y mae Duw o'i ffafr wedi eu rhoi i'th was.”
6 Yna nesaodd y morynion a'u plant, ac ymgrymu;
7 nesaodd Lea hefyd a'i phlant, ac ymgrymu; ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu.
8 Dywedodd Esau, “Beth a fwriedi gyda'r holl fintai hon a gyfarfûm?” Atebodd yntau, “Ennill ffafr yng ngolwg f'arglwydd.”