6 Yna nesaodd y morynion a'u plant, ac ymgrymu;
7 nesaodd Lea hefyd a'i phlant, ac ymgrymu; ac yn olaf daeth Joseff a Rachel, ac ymgrymu.
8 Dywedodd Esau, “Beth a fwriedi gyda'r holl fintai hon a gyfarfûm?” Atebodd yntau, “Ennill ffafr yng ngolwg f'arglwydd.”
9 Ond dywedodd Esau, “Y mae gennyf ddigon, fy mrawd; cadw'r hyn sydd gennyt i ti dy hun.”
10 Yna dywedodd Jacob, “Na, os cefais ffafr yn d'olwg, cymer fy anrheg o'm llaw; y mae gweld dy wyneb fel gweld wyneb Duw, gan dy fod wedi fy nerbyn.
11 Cymer yn awr fy rhodd a ddygwyd i ti, oherwydd bu Duw yn raslon i mi, ac y mae gennyf ddigon.” Ac am ei fod yn erfyn arno, cymerodd yntau'r rhodd.
12 Yna dywedodd Esau, “Cychwynnwn ar ein taith, ac af finnau o'th flaen.”