15 Dyma benaethiaid disgynyddion Esau: meibion Eliffas, mab hynaf Esau, y penaethiaid Teman, Omar, Seffo, Cenas,
16 Cora, Gatam ac Amalec. Dyna benaethiaid Eliffas yng ngwlad Edom; meibion Ada oeddent.
17 Yna meibion Reuel fab Esau: y penaethiaid Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna benaethiaid Reuel yng ngwlad Edom; meibion Basemath gwraig Esau oeddent.
18 Yna meibion Oholibama gwraig Esau: y penaethiaid Jeus, Jalam a Cora. Dyna'r penaethiaid a anwyd i Oholibama merch Ana, gwraig Esau.
19 Dyna ddisgynyddion Esau, hynny yw Edom, a dyna'u penaethiaid.
20 Dyma feibion Seir yr Horiad, preswylwyr y wlad: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,
21 Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid, meibion Seir yng ngwlad Edom.