18 Yna meibion Oholibama gwraig Esau: y penaethiaid Jeus, Jalam a Cora. Dyna'r penaethiaid a anwyd i Oholibama merch Ana, gwraig Esau.
19 Dyna ddisgynyddion Esau, hynny yw Edom, a dyna'u penaethiaid.
20 Dyma feibion Seir yr Horiad, preswylwyr y wlad: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,
21 Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid, meibion Seir yng ngwlad Edom.
22 Hori a Hemam oedd meibion Lotan, a Timna oedd ei chwaer.
23 Dyma feibion Sobal: Alfan, Manahath, Ebal, Seffo ac Onam.
24 Dyma feibion Sibeon: Aia ac Ana. Hwn yw'r Ana a ddaeth o hyd i ddŵr yn y diffeithwch wrth wylio asynnod ei dad Sibeon.