2 Priododd Esau wragedd o blith merched Canaan, sef Ada merch Elon yr Hethiad, Oholibama merch Ana fab Sibeon yr Hefiad,
3 a Basemath merch Ismael a chwaer Nebaioth.
4 Ac i Esau esgorodd Ada ar Eliffas; esgorodd Basemath ar Reuel;
5 ac esgorodd Oholibama ar Jeus, Jalam a Cora. Dyma feibion Esau a anwyd iddo yng ngwlad Canaan.
6 Cymerodd Esau ei wragedd, ei feibion a'i ferched, a phob aelod o'i deulu, ei wartheg a'i holl anifeiliaid, a'r holl feddiant a gafodd yng ngwlad Canaan, ac aeth draw i wlad Seir oddi wrth ei frawd Jacob.
7 Yr oedd eu cyfoeth mor fawr fel na allent gyd-fyw, ac ni allai'r wlad lle'r oeddent yn byw eu cynnal o achos eu hanifeiliaid.
8 Felly arhosodd Esau, hynny yw Edom, ym mynydd-dir Seir.