20 Dyma feibion Seir yr Horiad, preswylwyr y wlad: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,
21 Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid, meibion Seir yng ngwlad Edom.
22 Hori a Hemam oedd meibion Lotan, a Timna oedd ei chwaer.
23 Dyma feibion Sobal: Alfan, Manahath, Ebal, Seffo ac Onam.
24 Dyma feibion Sibeon: Aia ac Ana. Hwn yw'r Ana a ddaeth o hyd i ddŵr yn y diffeithwch wrth wylio asynnod ei dad Sibeon.
25 Dyma blant Ana: Dison ac Oholibama ferch Ana.
26 Dyma feibion Dison: Hemdan, Esban, Ithran a Ceran.