29 Dyma benaethiaid yr Horiaid: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana,
30 Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid yn ôl eu tylwythau yng ngwlad Seir.
31 Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom, cyn i'r Israeliaid gael brenin.
32 Teyrnasodd Bela fab Beor yn Edom, a Dinhaba oedd enw ei ddinas.
33 Pan fu farw Bela, teyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.
34 Pan fu farw Jobab, teyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.
35 Pan fu farw Husam, teyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le, ac ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab; Afith oedd enw ei ddinas.