8 Felly arhosodd Esau, hynny yw Edom, ym mynydd-dir Seir.
9 Dyma genedlaethau Esau, tad yr Edomiaid ym mynydd-dir Seir.
10 Dyma enwau meibion Esau: Eliffas fab Ada gwraig Esau, Reuel fab Basemath gwraig Esau.
11 A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas.
12 Yr oedd Timna yn wraig ordderch i Eliffas fab Esau, ac i Eliffas esgorodd ar Amalec. Dyna ddisgynyddion Ada gwraig Esau.
13 Meibion Reuel oedd Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna ddisgynyddion Basemath gwraig Esau.
14 Dyma feibion Oholibama, merch Ana fab Sibeon, gwraig Esau: i Esau esgorodd ar Jeus, Jalam a Cora.