1 Wedi'r pethau hyn, troseddodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft.
2 Ffromodd Pharo wrth ei ddau swyddog, y pen-trulliad a'r pen-pobydd,
3 a'u rhoi yn y ddalfa yn nhŷ pennaeth y gwarchodwyr, sef y carchar lle'r oedd Joseff yn gaeth.
4 Trefnodd pennaeth y gwarchodwyr i Joseff ofalu amdanynt a gweini arnynt. Wedi iddynt fod yn y ddalfa am ysbaid,