16 Pan welodd y pen-pobydd fod y dehongliad yn un ffafriol, dywedodd wrth Joseff, “Cefais innau hefyd freuddwyd: yr oedd tri chawell o fara gwyn ar fy mhen.
17 Yn y cawell uchaf yr oedd pob math o fwyd wedi ei bobi ar gyfer Pharo, ac adar yn ei fwyta o'r cawell ar fy mhen.”
18 Atebodd Joseff, “Dyma'r dehongliad: y tri chawell, tri diwrnod ydynt;
19 ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben—oddi arnat!—ac yn dy grogi ar bren; a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd.”
20 Ar y trydydd dydd yr oedd pen-blwydd Pharo, a gwnaeth wledd i'w holl weision, a dod â'r pen-trulliad a'r pen-pobydd i fyny yng ngŵydd ei weision.
21 Adferodd y pen-trulliad i'w swydd, a rhoddodd yntau'r cwpan yn llaw Pharo;
22 ond crogodd y pen-pobydd, fel yr oedd Joseff wedi dehongli iddynt.