20 Ar y trydydd dydd yr oedd pen-blwydd Pharo, a gwnaeth wledd i'w holl weision, a dod â'r pen-trulliad a'r pen-pobydd i fyny yng ngŵydd ei weision.
21 Adferodd y pen-trulliad i'w swydd, a rhoddodd yntau'r cwpan yn llaw Pharo;
22 ond crogodd y pen-pobydd, fel yr oedd Joseff wedi dehongli iddynt.
23 Eto ni chofiodd y pen-trulliad am Joseff, ond anghofio'n llwyr amdano.