9 Felly adroddodd y pen-trulliad ei freuddwyd i Joseff, a dweud wrtho, “Yn fy mreuddwyd yr oedd gwinwydden o'm blaen,
10 ac ar y winwydden dair cangen; yna blagurodd, blodeuodd, ac aeddfedodd ei grawnsypiau yn rawnwin.
11 Yn fy llaw yr oedd cwpan Pharo; cymerais y grawnwin, eu gwasgu i gwpan Pharo, a rhoi'r cwpan yn ei law.”
12 Dywedodd Joseff wrtho, “Dyma'r dehongliad: y tair cangen, tri diwrnod ydynt;
13 ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben ac yn dy adfer i'th swydd, a byddi dithau'n rhoi cwpan Pharo yn ei law, yn ôl yr arfer gynt pan oeddit yn drulliad iddo.
14 Os bydd iti gofio amdanaf pan fydd yn dda arnat, fe wnei gymwynas â mi trwy grybwyll amdanaf wrth Pharo, a'm cael allan o'r tŷ hwn.
15 Oherwydd cefais fy nghipio o wlad yr Hebreaid; ac nid wyf wedi gwneud dim yma chwaith i haeddu fy ngosod mewn cell.”