1 Ymhen dwy flynedd union breuddwydiodd Pharo ei fod yn sefyll ar lan y Neil.
2 A dyma saith o wartheg porthiannus a thew yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd;
3 ac yna saith o wartheg eraill, nychlyd a thenau, yn esgyn ar eu hôl ac yn sefyll ar lan yr afon yn ymyl y gwartheg eraill.
4 Bwytaodd y gwartheg nychlyd a thenau y saith buwch borthiannus a thew. Yna deffrôdd Pharo.