16 Atebodd Joseff Pharo a dweud, “Nid myfi; Duw a rydd ateb ffafriol i Pharo.”
17 Dywedodd Pharo wrth Joseff, “Yn fy mreuddwyd yr oeddwn yn sefyll ar lan y Neil,
18 a dyma saith o wartheg tew a phorthiannus yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd;
19 ac yna saith o wartheg eraill truenus a nychlyd a thenau iawn, yn dod ar eu hôl; ni welais rai cynddrwg yn holl dir yr Aifft.
20 Bwytaodd y gwartheg tenau a nychlyd y saith o wartheg tewion cyntaf,
21 ond er iddynt eu bwyta nid oedd ôl hynny arnynt, gan eu bod mor denau â chynt. Yna deffroais.
22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd saith o dywysennau llawn a da yn tyfu ar un gwelltyn;